Jeremiah 1:8

8Paid bod ag ofn pobl,” meddai'r Arglwydd
“achos dw i gyda ti i ofalu amdanat.”

Jeremiah 1:19

19Byddan nhw'n trïo dy wrthwynebu di, ond yn methu, am fy mod i gyda ti yn edrych ar dy ôl,” meddai'r Arglwydd.

Jeremiah 30:10-11

10“Felly, peidiwch bod ag ofn bobl Jacob, fy ngweision,”

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.
“Peidiwch anobeithio bobl Israel.
Dw i'n mynd i'ch achub chi a'ch plant
o'r wlad bell lle buoch yn gaeth.
Bydd pobl Jacob yn dod yn ôl adre ac yn mwynhau heddwch.
Byddan nhw'n teimlo'n saff a fydd neb yn eu dychryn nhw.
11Dw i gyda chi, i'ch achub chi,”

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.
“Dw i'n mynd i ddinistrio'r gwledydd hynny
lle gwnes i eich gyrru chi ar chwâl,
ond wna i ddim eich dinistrio chi.
Ydw, dw i'n mynd i'ch disgyblu,
ond dim ond faint dych chi'n ei haeddu;
alla i ddim peidio'ch cosbi chi o gwbl.”

Copyright information for CYM