Numbers 20:2-13

2Doedd dim dŵr i'r bobl yno, a dyma nhw'n casglu at ei gilydd yn erbyn Moses ac Aaron. 3A dyma nhw'n dechrau ffraeo gyda Moses: “Byddai lot gwell petaen ni wedi marw o flaen yr Arglwydd gyda'n brodyr! 4Pam wyt ti wedi dod â phobl yr Arglwydd i'r anialwch yma? Er mwyn i ni a'n hanifeiliaid farw yma? 5Pam wnest ti ddod â ni allan o'r Aifft i'r lle ofnadwy yma? Does dim cnydau'n tyfu yma, dim ffigys, gwinwydd na phomgranadau. Does dim hyd yn oed ddŵr i'w yfed!”

6Dyma Moses ac Aaron yn mynd oddi wrth y bobl at y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw. A dyma nhw'n plygu yno a'i hwynebau ar lawr. A dyma nhw'n gweld ysblander yr Arglwydd yno. 7Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses: 8“Cymer dy ffon. Dw i eisiau i ti ac Aaron dy frawd gasglu'r bobl i gyd at ei gilydd. Yna, o flaen pawb, dw i eisiau i ti orchymyn i'r graig roi dŵr. Yna bydd dŵr yn tywallt o'r graig, a bydd y bobl a'r anifeiliaid yn cael yfed ohono.”

9Felly dyma Moses yn cymryd y ffon o'r lle roedd yn cael ei chadw o flaen yr Arglwydd. 10A dyma Moses ac Aaron yn galw'r bobl at ei gilydd o flaen y graig. Dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Gwrandwch, chi rebeliaid! Oes rhaid i ni ddod â dŵr allan o'r graig yma i chi?” 11A dyma Moses yn codi ei law ac yn taro'r graig ddwywaith gyda'r ffon, a dyma'r dŵr yn llifo allan ohoni. Cafodd y bobl a'r anifeiliaid ddigonedd i'w yfed. 12Ond dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses ac Aaron, “Am eich bod chi ddim wedi trystio fi ddigon i ddangos i bobl Israel fy mod i'n wahanol, fyddwch chi ddim yn cael arwain y bobl yma i'r wlad dw i'n ei rhoi iddyn nhw.” 13Cafodd y lle ei alw yn ‛Ffynnon Meriba‛, lle roedd y bobl wedi dadlau gyda'r Arglwydd, ac yntau wedi dangos iddyn nhw ei fod e i gael ei anrhydeddu, yn Dduw sanctaidd, gwahanol.

Brenin Edom yn gwrthod caniatâd i groesi ei dir

Copyright information for CYM