a3:12-17

Numbers 21:21-35

21Dyma Israel yn anfon negeswyr at Sihon, brenin yr Amoriaid, i ofyn iddo: 22“Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir di? Wnawn ni ddim niwed i unrhyw gnydau na gwinllannoedd, na hyd yn oed yfed dŵr o unrhyw ffynnon. Byddwn ni'n cadw ar Briffordd y Brenin yr holl ffordd, nes byddwn ni wedi croesi'r ffin yr ochr arall.” 23Ond gwrthododd Sihon adael i bobl Israel groesi ei dir. Casglodd ei fyddin at ei gilydd, ac ymosod ar Israel yn Iahats yn yr anialwch. 24Ond Israel wnaeth ennill y frwydr, a dyma nhw'n cymryd eu tir oddi arnyn nhw, o Geunant Arnon i Ryd Jabboc, a'r holl ffordd at ffin yr Ammoniaid. Roedd y ffin honno wedi ei hamddiffyn, ac yn gwbl ddiogel. 25Dyma Israel yn concro trefi'r Amoriaid i gyd, a setlo ynddyn nhw, gan gynnwys dinas Cheshbon ei hun a'r pentrefi o'i chwmpas. 26Cheshbon oedd dinas Sihon brenin yr Amoriaid. Ac roedd Sihon wedi concro brenin Moab a chymryd ei dir oddi arno, yr holl ffordd at Afon Arnon. 27Dyna pam mae'r baledwyr yn dweud,

“Dewch i Cheshbon, dinas Sihon,
i'w hadfer a'i hailadeiladu.
28Roedd tân yn llosgi yn Cheshbon –
fflamau o dref y Brenin Sihon.
Mae wedi llosgi Ar yn Moab
ac arweinwyr ucheldir Arnon.
29Mae hi ar ben arnat ti, Moab!
Dych chi bobl sy'n addoli Chemosh wedi'ch difa.
Mae eich meibion yn ffoaduriaid,
a'ch merched wedi eu cymryd yn gaethion,
gan Sihon, brenin yr Amoriaid.
30Dŷn ni wedi eu difa nhw'n llwyr
o Cheshbon yr holl ffordd i Dibon.
Dŷn ni wedi eu taro nhw i lawr
yr holl ffordd i Noffa a Medeba.”

31Felly roedd pobl Israel yn byw yng ngwlad yr Amoriaid. 32Dyma Moses yn anfon ysbiwyr i edrych ar dref Iaser. A dyma nhw'n dal y pentrefi yno, a gyrru allan yr Amoriaid oedd yn byw yno.

33Wedyn dyma nhw'n troi i'r gogledd, ac yn mynd i gyfeiriad Bashan. A dyma Og brenin Bashan yn dod â'i fyddin gyfan i ymladd yn eu herbyn nhw yn Edrei. 34Ond dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses, “Paid bod â'i ofn. Dw i'n mynd i roi Og a'i fyddin a'i dir i gyd i ti. Byddi'n gwneud yr un fath iddo fe ag a wnest ti i Sihon brenin yr Amoriaid oedd yn byw yn Cheshbon.” 35Felly dyma Israel yn ennill y frwydr yn erbyn Og a'i feibion a'i fyddin. Cawson nhw i gyd eu lladd. A dyma Israel yn cymryd y tir.

Deuteronomy 29:7-8

7Pan gyrhaeddoch chi yma, dyma Sihon, brenin Cheshbon, ac Og, brenin Bashan, yn dod allan i ryfela yn ein herbyn ni, ond ni wnaeth ennill y frwydr. 8Dyma ni'n cymryd eu tir nhw, a'i roi i lwythau Reuben a Gad, a hanner llwyth Manasse. a

Copyright information for CYM